Ffotograffiaeth Katie Barrett Photography
 
Untitled Document

Amdanaf Fy Hun

Childrens PhotographyFel ffotograffydd sy’n arbenigo mewn tynnu lluniau babanod a phlant, yr wyf yn gallu cyfuno fy nau angerdd pennaf.

Y mae gennyf dros 16 mlynedd o brofiad fel ffotograffydd. Yn gychwynnol yn tynnu lluniau yn ystod achlysuron teuluol, fe wneuthum ddarganfod yn gyflym mai fy ngwaith gyda phlant oedd y mwyaf pleserus a llwyddiannus.

Yr wyf yn ystyried bod ffotograffiaeth babanod a phlant yn gelfyddyd neilltuol, ac yn wahanol i unrhyw ffurf arall o ffotograffiaeth, y mae arni angen ymagweddiad unigryw.

Fel mam i ddau o blant prydferth, fe wn ond yn rhy dda pa mor annarogan y gallant fod. Yn aml, nid ydynt eisiau “perfformio” pan mae arnoch angen iddynt wneud fwyaf ac fe allant yn hawdd gael eu gorlethu gan stiwdio ffotograffydd a’r holl gyfarpar a ddaw gyda hi. Fe all hyn esgor ar eisteddiad ingol a delweddau nad ydynt yn datgelu gwir gymeriad eich plentyn. Gyda hyn mewn golwg, yr wyf yn credu bod y delweddau gorau, mwyaf naturiol yn cael eu creu mewn lleoliad cyfforddus a chyfarwydd. Dyna pam fy mod yn tynnu lluniau yn eich cartref neu mewn lleoliad dewisedig - rhywle ble y gall eich plentyn fod yn wirioneddol hwy’u hunain.

Y mae sesiynau at ei gilydd yn para oddeutu awr. Fodd bynnag, yr wyf yn fwy na dedwydd gweithio o amgylch cyfnodau cysgu, bwydo ac unrhyw bethau eraill sy’n tynnu sylw neu sy’n ymyrryd (y mae’r rhain yn aml yn rhoi’r cyfleoedd gorau ar gyfer tynnu lluniau!). Yr wyf yn gweithio mewn modd anymwthiol iawn, gan weithio o amgylch eich plentyn, yn hytrach na fel arall. Yn anad dim, yr wyf eisiau i hyn fod yn brofiad pleserus gyda llond gwlad o atgofion dedwydd i chi ac i’ch rhai bychain.

Wrth ddewis ffotograffydd i ddod i mewn i’ch cartref neu i dreulio amser gyda chi a’ch teulu, y mae’n hanfodol eich bod yn teimlo’n gartrefol ac yn ddedwydd gyda’r person hwnnw. Dyna pam fy mod yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth personol. Myfi yw’r unig berson y byddwch yn ymdrin â hi o’r amser yr ydych yn trefnu’r sesiwn, yn gyfan gwbl drwodd at dderbyn eich printiau a’ch cynhyrchion terfynol. Yn ychwanegol at hyn, yr wyf yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yr wyf yn gallu cynnig fy holl wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r lluniau sy'n agosach i'n calonau yw'r rhai sy'n gyfleu personoliaeth, cymeriad
ac ysbryd y person o fewn y llun. Fy mwriad i fel ffotograffydd yw i llwyddo tynnu lluniau fel hyn.


Facebook - dewch o hyd i fi ar facebook