Ffotograffiaeth Katie Barrett Photography
 
Untitled Document

Tystlythyrau

Childrens Photographer Y mae’r ymateb yr ydym wedi’i gael oddi wrth y ffotograffau wedi bod yn anhygoel, ac os na wnaethom ei gyfleu ar ddiwrnod parti Max, yr ydym ond eisiau dweud pa mor llawen yr ydym gyda’r holl becyn yr ydych wedi’i ddarparu; yr ydym wrth ein boddau gyda sut yr ydych wedi dal ein bachgen bach mewn llun. Diolch.
Kelli, Mam Max

Fe lwyddodd Katie i ddal mewn llun yr holl wynebau bach digri’ yr wyf yn eu hoffi, mewn un sesiwn nad oeddwn i wedi llwyddo i gael, a minnau gyda fy maban 24/7. Y mae’r sesiynau mor ddigyffro a hawdd, y mae Katie yn gwirioneddol gysylltu gyda’r baban a chithau. Y mae’n teimlo fel cyfeilles, ac nid rhywun sy’n “gwneud ei gwaith”, sy’n arwain at faban dedwydd a lluniau gwych.
Melanie, Mam Teilo

Yr oedd hi’n hwyl i wneud ac fe ddaeth y DVD terfynol â dagrau i’m llygaid! Yr wyf eisiau’i wylio’n barhaus. Yr unig wendid yw ceisio â dewis hoff ffotograffau pan fônt i gyd mor odidog!
Jo, Mam Joshua.

Yr oeddwn ond eisiau gadael ichi wybod pa mor falch yr wyf gyda’r lluniau. Fe wn fy mod yn rhagfarnllyd ynglŷn â’r pwnc ond y maent yn wir hyfryd.
Rachel, Mam John

Sesiwn ffotograffiaeth hamddenol iawn. Fe wnaeth Katie inni i gyd deimlo’n gartrefol iawn. Lluniau ardderchog!
Bev, Mam Carter ac Emily

Fe ddaeth Katie i barti ail Ben-blwydd fy merch gartref a dal mewn lluniau ddelweddau bendigedig ohoni a’n gwesteion. Yr oedd Katie yn anamlwg o amgylch y plant ac fe wnaeth iddynt deimlo’n esmwyth iawn. Weithiau, ni wneuthum hyd yn oed sylwi ei bod hi’n tynnu lluniau!! Yr ydym yn ddedwydd iawn gyda’r delweddau sydd gennym, gan eu bod yn gwir ddal personoliaeth Erin a naws y parti. Yr wyf wedi argymell Katie i’m cyfeillion i gyd!
Sam, Mam Erin

Gwych gyda phlant er mwyn cyflawni canlyniadau rhagorol.
Ceri, Mam Elis, Ifan a Non


Facebook - dewch o hyd i fi ar facebook