top of page

Y pethau cyntaf mae angen i chi wybod amdanaf yw fy mod i’n caru bod yn ffotograffydd, ac yn caru bod yn fam!

Nes i astudio ffotograffiaeth yn wreiddiol y 90au cynnar ac, nes i ddarganfod yn gyflym taw fy ngwaith gyda phlant oedd y gwaith mwyaf pleserus a llwyddiannus. Yn dilyn genedigaeth fy mhlentyn cyntaf, yn 1998, wnaeth ffotograffiaeth mynd i’r cefndir, er fy mod yn parhau i dynnu lluniau o  ddigwyddiadau teuluol, plant fy ffrindiau ac, wrth gwrs, fy babi bach hyfryd! Ychydig flynyddoedd yn hwyrach, ar ôl i fy ail babi cael ei eni, penderfynais fentro a dechrau fy musnes fy hun. Felly, ar Ddydd Gŵyl Dewi, 2006 lansiais fy musnes ac nid wyf wedi edrych yn ôl. Ers hynny mae'r busnes wedi tyfu ac, ynghyd a ffotograffiaeth plant, rydw i'n hapus iawn I gallu tynnu lluniau o briodasau, meithrinfeydd, digwyddiadau a lot mwy.  

Credaf fod y delweddau gorau yn cael eu cyflawni mewn lleoliad cyfforddus a chyfarwydd i chi felly, yr wyf yn tynnu lluniau yn eich cartref neu mewn lleoliad o’ch dewis chi. Rhywle ble gall eich plentyn fod yn wirioneddol eu hunain. Nid wyf yn gweithio o stiwdio neu ddod ag unrhyw gyfarpar stiwdio gyda mi. Mae dim ond fi a fy nghamera. Mae hyn yn fy ngalluogi i weithio mewn ffordd anymwthiol iawn, gan ddal holl eiliadau ac wynebau sy'n dod rhwng "y wên camera"

Rwy’n hoffi fy lluniau i ddweud stori ac i ddal eiliad mewn amser. Felly, mae fy arddull yn feddylgar ac yn adlewyrchol. Rwyf yn creu delweddau naturiol, sy'n llawn o fywyd ac eto, puredig artistig. Meddyliwch amdanynt fel realiti eich hun - dim ond ychydig mwy tlws.

AMDANA FI

Eich sesiwn

Anghofiwch am ddillad ffurfiol a gwenau "cheesy". Mae eich sesiwn yn amser da, sgwrs, moment, atgof, hwyl! Byddwn yn siarad, chwarae a chwerthin.

Lleoliad

Cyn gynted ag y bydd eich plant yn ddigon hen i symud o amgylch, mae'n hyfryd i gael nhw tu allan i gael hwyl yn yr awyr iach. Gallaf wneud eich sesiwn lle bynnag yr hoffech gyda rhai hoff lefydd yn cynnwys parciau a thraethau. Os nad yw'ch babi yn symud o gwmpas eto, mae fel arfer yn well i gadw'r sesiwn yn syml ac aros gartref (lle gallwn ddefnyddio'r ardd os yw'n ddiwrnod heulog).

 

Mae sesiynau fel arfer yn para tuag awr ond caniatewch 2 jest rhagofn. Nid yw pob plentyn yn gyfforddus o flaen y camera yn syth, felly rwy'n hoffi dod i nabod nhw yn gyntaf.

Mae rhan fwyaf o blant bach yn chwilio am yr antur nesaf ar ôl awr ond, trwy ganiatáu rhywfaint o amser ychwanegol, gallwn ni ymlacio heb boeni am fwydo, cysgu na “tantrums” (er bod y rhain aml yn gwneud lluniau gwych ac i gyd mewn diwrnod o waith i ffotograffydd plant).

 

Dillad

Y peth pwysicaf yw eich bod chi a'ch plant yn hapus a chyfforddus. Nid oes angen i bawb fod yn gwisgo dillad gwyn ond ceisiwch osgoi lliwiau rhy lachar (fel neon!). Mae patrymau'n iawn ac, gallant edrych yn wych, ond gall logos neu luniau mawr tynnu sylw.

 

Pethau i ddod gyda

Os rydym ni ar leoliad, croeso i chi ddod â beiciau, sgwteri, peli neu unrhyw beth arall mae eich un bach yn mwynhau chwarae gyda. Mae tynnu lluniau tra'u bod yn chwarae yn ffordd wych o gael delweddau naturiol, hwyliog. Hefyd, ystyriwch bethau fel diodydd neu fyrbrydau. Mae'n ddefnyddiol iawn i chi gael hoff fyrbryd eich plentyn gyda chi (ond dim byd yn rhy anniben!).

 

Taliad

Mae angen blaendal o 50% i sicrhau'r dyddiad gyda'r gweddill yn daladwy ar y diwrnod trwy arian parod, PayPal neu drosglwyddiad banc.

bottom of page