top of page

Eich sesiwn

Anghofiwch am ddillad ffurfiol a gwenau "cheesy". Mae eich sesiwn yn amser da, sgwrs, moment, atgof, hwyl! Byddwn yn siarad, chwarae a chwerthin.

Lleoliad

Cyn gynted ag y bydd eich plant yn ddigon hen i symud o amgylch, mae'n hyfryd i gael nhw tu allan i gael hwyl yn yr awyr iach. Gallaf wneud eich sesiwn lle bynnag yr hoffech gyda rhai hoff lefydd yn cynnwys parciau a thraethau. Os nad yw'ch babi yn symud o gwmpas eto, mae fel arfer yn well i gadw'r sesiwn yn syml ac aros gartref (lle gallwn ddefnyddio'r ardd os yw'n ddiwrnod heulog).

 

Mae sesiynau fel arfer yn para tuag awr ond caniatewch 2 jest rhagofn. Nid yw pob plentyn yn gyfforddus o flaen y camera yn syth, felly rwy'n hoffi dod i nabod nhw yn gyntaf.

Mae rhan fwyaf o blant bach yn chwilio am yr antur nesaf ar ôl awr ond, trwy ganiatáu rhywfaint o amser ychwanegol, gallwn ni ymlacio heb boeni am fwydo, cysgu na “tantrums” (er bod y rhain aml yn gwneud lluniau gwych ac i gyd mewn diwrnod o waith i ffotograffydd plant).

 

Dillad

Y peth pwysicaf yw eich bod chi a'ch plant yn hapus a chyfforddus. Nid oes angen i bawb fod yn gwisgo dillad gwyn ond ceisiwch osgoi lliwiau rhy lachar (fel neon!). Mae patrymau'n iawn ac, gallant edrych yn wych, ond gall logos neu luniau mawr tynnu sylw.

 

Pethau i ddod gyda

Os rydym ni ar leoliad, croeso i chi ddod â beiciau, sgwteri, peli neu unrhyw beth arall mae eich un bach yn mwynhau chwarae gyda. Mae tynnu lluniau tra'u bod yn chwarae yn ffordd wych o gael delweddau naturiol, hwyliog. Hefyd, ystyriwch bethau fel diodydd neu fyrbrydau. Mae'n ddefnyddiol iawn i chi gael hoff fyrbryd eich plentyn gyda chi (ond dim byd yn rhy anniben!).

 

Taliad

Mae angen blaendal o 50% i sicrhau'r dyddiad gyda'r gweddill yn daladwy ar y diwrnod trwy arian parod, PayPal neu drosglwyddiad banc.

bottom of page